Mae Effaith Blaenau Gwent yn darparu cymorth busnes am ddim a cyfrinachol i bobl leol, mentrau newydd, busnesau presennol a mentrau cymdeithasol.
Oes gennych chi syniad mawr? Egni? Angerdd? Efallai ei fod am gymryd y cam cyntaf hwnnw - siarad gyda rhywun. Gall Effaith Blaenau Gwent helpu.
- Rydym yn darparu gwasanaeth hyfforddi/rheoli busnes AM DDIM A CHYFRINACHOL
- Cefnogaeth 1-i-1 gan Hwylusydd Menter lleol a pharod i gynorthwyo
- Gwasanaeth rhwydd ei gyrraedd (dim cyfyngiadau amser)
- Help a chefnogaeth ymarferol gan dîm adnoddau gwirfoddol lleol
- Cysylltiadau gydag ystod eang o raglenni ac adnoddau a gynigir gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru/cyrff cymorth busnes a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â'r gymuned fusnes leol.
- Help gydag adeiladu tîm rheoli i'ch cefnogi chi a'ch busnes
- Rhwydwaith lleol o gysylltiadau, gwybodaeth ac adnoddau
Sefydlwyd Effaith Blaenau Gwent ar 14 Mawrth 2011 i ddarparu gwasanaethau Hwyluso Menter® sy'n dilyn egwyddorion Sefydliad Sirolli a grëwyd gan Dr. Ernesto Sirolli. EFFAITH BG oedd y prosiect Hwyluso Menter cyntaf yng Nghymru.
Moe Forouzan yw eich Hwylusydd Menter. Os ydych yn sefydlu busnes, ef yw eich pwynt cyswllt i gael help, cymorth a hyfforddiant. Mae Moe hefyd yn gweithio gyda busnesau lleol presennol a gyda mentrau cymdeithasol. Mae'n rhoi gwasanaeth personol ansawdd uchel sy'n gyfrinachol ac am ddim.
Sut fydd eich Hwylusydd Menter yn eich helpu chi gyda'ch syniad busnes neu fenter?
- Yn gyntaf, bydd Moe yn gwrando - ac yn gwrando'n astud
- Bydd yn cadw meddwl agored am eich syniadau a
- Bydd yn canolbwyntio ar adeiladu'r tîm cymorth rydych ei angen
Moe yw eich Hwylusydd Menter. Mae yno ar gyfer pob cymuned ym Mlaenau Gwent - ac ar gyfer pobl leol o bob oedran a chefndir. Bydd yn cwrdd ag unrhyw un sy'n angerddol am greu eu menter neu fusnes eu hunain o amgylch yr hyn maent wrth eu bodd yn ei wneud.
Mae'r Tîm Adnoddau Gwirfoddolwyr yn elfen allweddol yn llwyddiant dull Sirolli. Mae'r panel yn cynnwys grŵp o wirfoddolwyr o'r gymuned leol, a ddaw ynghyd i sefydlu adnodd gymunedol gredadwy a dibynadwy yr ymddiriedir ynddi. Mae'r tîm adnoddau yn cwrdd bob 6 wythnos fel arfer neu pan fo'r Hwylusydd Menter yn dynodi angen, ac mae'n cynnwys unigolion o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a diddordebau.
Un o brif swyddi'r panel yw sicrhau cyflwyniadau i'r hwylusydd, hybu cysylltiadau rhwydwaith a chynyddu proffil Effaith Blaenau Gwent. Y ddamcaniaeth yw, drwy gynyddu proffil Effaith Blaenau Gwent a'i wasanaethau, y caiff mwy o bobl yn y gymuned eu cymell i geisio cefnogaeth yr hwylusydd. Unwaith y bydd yr hwylusydd wedi cwrdd gyda chlient a chanfod pa gymorth maent ei angen, gellir wedyn gysylltu â'r panel i drafod yr achos gyda'i gilydd ac ysgogi'r syniadau a chysylltiadau allweddol sydd eu hangen i gynorthwyo'r sefyllfa a helpu'r busnes i dyfu a datblygu.
Croesawn wirfoddolwyr newydd o bob oedran a chefndir. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am fod yn wirfoddolwr, cysylltwch â mark@bgeffect.com os gwelwch yn dda.
Cafodd Rhwydwaith Effaith ei greu i gefnogi busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes ym Mlaenau Gwent.
Y manteision i chi a'ch busnes
- Dysgu gan eraill
- Rhannu profiadau
- Cyngor a chymorth
- Cysylltiadau newydd
- Rhwydweithio anffurfiol
- Cyfleoedd masnachu lleol
- Ysgogi busnesau
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am fusnes gan bartneriaid allweddol
Yn grediniol fod dyfodol pob cymuned yn gorwedd yn angerdd, deallusrwydd, dychymyg ac adnoddau ei phobl ei hun, mae Sefydliad Siroll™ wedi datblygu "Hwyluso Menter™” fel dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y person i ysgogi datblygiad cymunedol a hefyd ddatblygiad economaidd.
Mae Hwyluswyr Menter yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith adnoddau seiliedig yn y gymuned (a elwir y 'Panel Gwirfoddolwyr') i ddarparu cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar reoli busnes i ddarpar entrepreneuriaid a hefyd fusnesau presennol. Ers 1985, mae model Sirolli o Hwyluso Menter wedi rhoi dull effeithlon ar gyfer mobileiddio arweinyddiaeth gymunedol ac wedi dangos dro ar ôl tro allu'r rhaglen ar gyfer ysbrydoli bywiogi cymunedol mewn llawer o wahanol wledydd o amgylch y byd.
Effaith Dyffryn Hafren, os ydych yn byw neu'n gweithio ger Llanbrynmair, Llanidloes, Llanfair Caereinion, y Trallwng neu'r Drenewydd - gallwch gysylltu â'ch Hwylusydd Menter i gael cymorth busnes.
Mae'r gwasanaeth i entrepreneuriaid a busnesau presennol am ddim, yn gyfrinachol ac yn gymwys. Mae'r ffocws bob amser yn canolbwyntio ar fod yn gyfleus i'r cleient.